Deall labeli bwyd

Mae’n bwysig darllen labeli i weld pa fwydydd sy’n uchel mewn halen er mwyn dewis yr opsiwn iachach.
Sut alla’i wybod os yw bwyd yn uchel mewn halen?
Y ffordd gyflymaf o weld a yw bwyd yn uchel mewn halen yw edrych ar yr wybodaeth am faeth ar y label.
Edrycha ar y ffigwr ar gyfer halen ym mhob 100g.
Uchel yw mwy na 1.5g o halen ym mhob 100g (neu 0.6g o sodiwm)
Isel yw 0.3g neu lai o halen ym mhob 100g (neu 0.1g o sodiwm)
Os yw cyfanswm yr halen ym mhob 100g rhwng y ffigurau hyn, yna mae’r bwyd yn cynnwys lefel ganolig o halen.
Cofia bod faint rwyt ti’n ei fwyta o fwyd arbennig yn effeithio ar faint o halen y cei ohono.
Ceisia osgoi bwyd sy’n uchel mewn halen. Os wyt ti’n bwyta’r bwydydd hyn yn aml, mae’n hawdd iawn bwyta llawer o halen. Dyma pam mae’n bwysig dewis bwyd sy’n isel mewn halen ble bo’n bosibl.
Mae hefyd yn syniad da dewis bwyd sy’n dweud ‘dim halen wedi’i ychwanegu’, os yn bosibl.
Labeli goleuadau traffig
Mae bwydydd wedi’u cynhyrchu gan rai archfarchnadoedd a gwneuthurwyr yn rhoi lliwiau ‘goleuadau traffig’ ar flaen y pecyn. Mae’r rhain yn ffordd gyflym o weld a yw bwyd yn uchel (coch), yn ganolig (ambr) neu’n isel (gwyrdd) ym mhob un o’r rhain: halen, siwgr, braster a braster dirlawn. Mae hyn yn dy helpu i wneud dewisiadau iachach.
Uchel (coch) = bwyta ychydig iawn, neu’n achlysurol.
Canolig (ambr) = yn iawn y rhan fwyaf o’r amser
Isel (gwyrdd) = dewis iachach
Bydd cymysgedd o goch, ambr a gwyrdd ar lawer o’r bwydydd sydd â lliwiau goleuadau traffig ar y label. Felly, wrth ddewis rhwng cynhyrchion tebyg, ceisia ddewis mwy o wyrdd ac ambr, a llai o goch, os wyt ti am wneud y dewis iachach.
Sut alla’i wybod faint o halen sydd mewn dogn o fwyd?
Edrycha ar yr wybodaeth am faeth ar y label. Os yw’r label yn rhoi ffigur ar gyfer halen ym mhob 100g, yna'r cyfan sydd raid i ti ei wneud yw cyfrif faint o halen sydd yn y dogn y byddi di’n ei fwyta. Felly os wyt ti’n bwyta 500g, byddet yn lluosi’r ffigwr ar gyfer 100g gyda 5.
Os mai dim ond ffigur ar gyfer sodiwm sydd gen ti, cyfrifa faint o sodiwm sydd yn y dogn rwyt ti am ei fwyta, ac yna lluosi’r ffigwr hwnnw gyda 2.5 i roi cyfanswm yr halen. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar dudalen Sodiwm a halen.
Mae’r label hefyd yn dweud wrthot faint o halen (neu sodiwm) sydd yn y pecyn cyfan neu ran ohono. Cofia gall maint y dogn a restrir ar y label fod yn wahanol i’r hyn yr wyt am ei fwyta.