Sodiwm a halen

Mae halen hefyd yn cael ei alw’n sodiwm clorid. Y sodiwm mewn halen sy’n gallu bod yn ddrwg i dy iechyd.
Mae sodiwm wedi’i restru yn yr wybodaeth am faeth ar labeli bwyd fel arfer. Mae halen wedi’i restru ar rai bwydydd, ond ddim bob tro.
Halen = sodiwm x 2.5
Os wyt ti’n gwybod faint o sodiwm sydd mewn bwyd, gelli gyfrifo’n fras faint o halen sydd ynddo drwy luosi’r sodiwm gyda 2.5. Felly os yw dogn o fwyd yn cynnwys 1.2g o sodiwm yna mae’n cynnwys tua 3g o halen.
Troswr sodiwm
Rho gyfanswm y gramiau (g) o sodiwm sydd mewn 100g o fwyd yn y bocs isod. Gelli weld yr wybodaeth hon ar y rhan fwyaf o labeli.
Yna rho faint o fwyd rwyt ti’n bwriadu’i fwyta (mewn gramiau). Gallai fod y pecyn cyfan neu ddogn llai.
Bydd y troswr yn dweud wrthot ti faint o halen sy’n y pecyn neu ddogn a pha ganran o dy uchafswm dyddiol yw hwn.
Os wyt am gyfrifo ar gyfer plentyn, clicia ar y grŵp oedran cywir cyn clicio ar ‘cyfrifo’.
Cofia bod y rhan fwyaf o fwydydd yn cynnwys halen. Os wyt ti’n bwyta bwyd sy’n uchel mewn halen, yna mae’n hawdd iawn mynd dros dy uchafswm dyddiol. Dyna pam mae’n bwysig dewis bwyd sy’n isel mewn halen, lle fedri di.