Halen - gwyddoniaeth
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi gosod targed i leihau faint o halen mae oedolion yn ei fwyta ar gyfartaledd i 6g y dydd erbyn 2010. Mae cyngor yr Asiantaeth ar faint o halen ddylai oedolion a phlant ei fwyta yn seiliedig ar argymhellion y Pwyllgor Cynghori Gwyddonol ar Faetheg (SACN). Mae SACN yn bwyllgor arbenigol annibynnol sy’n cynghori’r Asiantaeth a’r Adran Iechyd.
Y Pwyllgor Cynghori Gwyddonol ar Faetheg
Ym 1994, argymhellodd y Pwyllgor ar Agweddau Meddygol ar Bolisi Bwyd a Maetheg (COMA), yn ei adroddiad Nutritional Aspects of Cardiovascular Disease, fod pobl yn lleihau'r cyfartaledd halen maen nhw’n yn ei fwyta o 9g i 6g y dydd. Roedd yr argymhelliad hwn wedi’i seilio ar dystiolaeth o gysylltiad rhwng bwyta llawer o halen a phwysedd gwaed uchel.
Yn 2003, yn ei adroddiad ar Halen ac Iechyd, adolygodd y Pwyllgor Cynghori Gwyddonol ar Faetheg y dystiolaeth ers 1994 er mwyn ystyried a oedd argymhelliad blaenorol COMA, sef y dylai pobl fwyta llai o halen, yn parhau i fod yn ddilys.
Daeth SACN i’r casgliad bod y dystiolaeth fod cysylltiad rhwng bwyta halen a phwysedd gwaed uchel wedi cynyddu ers 1994. Mae’r lefelau uchel presennol o halen sy’n cael ei fwyta’n gyson gan bobl yn cynyddu’r perygl o bwysedd gwaed uchel, sy’n cynyddu’r perygl o gael strôc neu farw cyn eu hamser oherwydd clefydau cardiofasgwlaidd. Cadarnhaodd SACN y byddai pawb yn elwa o leihau’r halen maen nhw’n ei fwyta i 6g y dydd. Am y tro cyntaf, pennodd SACN lefelau uchaf argymelledig is ar gyfer faint o halen ddylai babanod a phlant ei fwyta.
Yn rhagair yr adroddiad, mae Cadeirydd SACN, Alan Jackson, yn dweud y byddai cyflawni’r targedau hyn yn fanteisiol iawn i iechyd y cyhoedd. Pe bai pobl yn bwyta hyd yn oed ychydig yn llai o halen, byddai’n helpu i leihau baich pwysedd gwaed uchel ar y boblogaeth.
Amcanion sydd o fewn cyrraedd y boblogaeth yw’r lefelau uchaf o halen a bennwyd ar gyfer oedolion a phlant, nid y lefelau delfrydol o halen y dylid ei fwyta.
Deiet a phwysedd gwaed
Mae astudiaethau wedi dangos mai deiet sy’n isel mewn halen, cyfanswm braster a braster dirlawn, ac sy’n llawn ffrwythau, llysiau, a chynhyrchion llaeth isel mewn braster sy’n sicrhau’r lleihad mwyaf mewn pwysedd gwaed.
Aeth Dietary Approaches to Stop Hypertension (DASH) (Appel et al, 1997) ati i asesu effeithiau patrymau deiet ar bwysedd gwaed. Dangosodd y canlyniadau bod deiet yn llawn ffrwythau, llysiau a chynhyrchion llaeth isel mewn braster (deiet DASH) o’i gymharu â deiet arferol yn yr UDA, yn lleihau pwysedd gwaed cyfartalog 5.5/3.0mmHg yn sylweddol.
Roedd treial sodiwm DASH (Sacks et al, 2001) yn edrych ar effaith cyfuno deiet DASH a bwyta llai o halen ar bwysedd gwaed. Gwelwyd y lleihad mwyaf mewn pwysedd gwaed gyda’r deiet DASH a bwyta ychydig iawn o halen (3g) a leihaodd pwysedd gwaed 8.9/4.5mmHg ar gyfartaledd yn is na’r deiet safonol (deiet nodweddiadol yr UDA) ar y lefel halen uchel (9g).
Dangosodd treial sodiwm DASH hefyd bod lleihau’r halen rwyt yn ei fwyta yn lleihau lefelau pwysedd gwaed cyfartalog pobl oedd yn bwyta deiet DASH neu’r deiet safonol. Roedd hyn yn wir am bobl oedd â phwysedd gwaed uchel a’r rhai oedd heb, a merched a phob grŵp ethnig.
Bydd cadw at bwysau iach, peidio yfed gormod o alcohol, ac ymarfer corff rheolaidd yn helpu i atal a lleihau pwysedd gwaed uchel hefyd.
Mae’r dudalen Pwysedd gwaed yn rhoi rhagor o wybodaeth.
Gelli lawrlwytho adroddiad llawn SACN yn Halen ac Iechyd. I gael gwybod mwy am SACN, cer i wefan SACN.
Mae cyhoeddiad gan y Cyngor Ymchwil Meddygol (MRC) a ysgrifenwyd yn 2005 yn crynhoi’r dystiolaeth sydd wrth wraidd y targed i leihau’r halen mae pobl yn ei fwyta i 6g y dydd. Mae’r adroddiad ar gael ar wefan MRC.