Halen – Gair i Gall

Halen – Gair i Gall

Mae yna sawl ffordd syml o leihau’r halen rwyt ti’n ei fwyta, p’un a dy fod yn coginio, yn bwyta allan neu’n dewis bwyd yn y siopau. Edrycha ar ein syniadau i weld be fedri di ei wneud.

  • Darllena’r label i dy helpu i ddewis grawnfwydydd brecwast iachach. Rho gynnig ar wenith pwff, bisgedi gwenith neu fiwsli heb halen wedi’i ychwanegu.
  • Rho gig moch sydd â llai o halen yn dy frechdan cig moch ac ychwanega sleisys o domato yn hytrach na sôs coch.
  • Wrth brynu bara, cymhara faint o halen sydd mewn gwahanol fathau a dewis yr un sydd â’r lleiaf.
  • Ceisia fwyta ychydig bach o fwydydd mwg fel cig a physgod mwg neu’u bwyta’n llai aml, oherwydd gallent fod yn uchel mewn halen.
  • Dewisa lysiau a chorbys tun heb halen wedi’i ychwanegu.
  • Dewisa ffrwyth, popgorn plaen neu gnau a hadau heb eu halltu fel byrbryd, yn lle creision neu gracers.
  • Os wyt ti’n dewis pryd parod neu saws pasta parod, cymhara’r gwahanol fathau a dewis yr un sydd â’r lleiaf o halen.
  • Paid â rhoi gormod o sôs coch, saws soi, mwstard, piclau a mayonnaise ar dy fwyd - gall pob un o’r rhain fod yn uchel mewn halen.
  • Ceisia beidio ychwanegu halen yn awtomatig wrth goginio neu cyn bwyta. Yn aml, mae pobl ond yn defnyddio halen oherwydd ei fod yn arferiad.

Bwyta allan

Os wyt ti’n bwyta mewn bwyty neu gaffi, neu’n archebu tecawe, mae dal yn bosibl i ti fwyta llai o halen drwy ddewis yn gall.

  • Wrth archebu pizza, gofynna am lysiau neu gyw iâr yn lle pepperoni, cig moch, neu gaws ychwanegol.
  • Yn y siop frechdanau, gofynna am salad cyw iâr neu eog wedi’i botsio ar dy frechdan, yn hytrach na ham neu gaws a phicl, sydd fel arfer yn uwch mewn halen.
  • Os wyt ti’n cael pryd Tsieineaidd neu Indiaidd, dewisa reis plaen gan fod llai o halen ynddo na reis wedi’i ffrio ag wy neu reis pilau.
  • Ceisia beidio â bwyta sglodion hallt yn rhy aml - beth am ddewis taten bob?
  • Pan wyt ti’n cael salad, gofynna am y dresin ar wahân, fel dy fod yn defnyddio faint rwyt ti ei angen. Gall rhai dresins fod yn uchel mewn halen, yn ogystal â braster.

Coginio

Mae sawl ffordd o ychwanegu blas wrth goginio heb ddefnyddio halen.

  • Ychwanegu perlysiau ffres at brydau pasta, llysiau a chig.
  • Marinadu cig a physgod o flaen llaw i roi mwy o flas.
  • Defnyddio garlleg, sinsir, tsili a leim mewn prydau tro-ffrio.
  • Ychwanegu gwin coch at stiw neu gaserol, a gwin gwyn at risoto neu saws ar gyfer cyw iâr.
  • Mynd ati i wneud stoc a grefi dy hun, yn lle defnyddio ciwbiau neu ronynnau, neu edrych am fathau sydd â llai o halen.
  • Rhostio llysiau fel pupur coch, courgettes, ffenigl, pannas a phwmpen i gael mwy o flas.
  • Rhoi sudd lemwn ar bysgod neu fwyd môr.
  • Ceisio defnyddio gwahanol fathau o winwns (nionod) - brown, coch, gwyn, sibols, sialóts.
  • Gwneud sawsiau gyda thomatos aeddfed llawn blas a garlleg.
  • Rhoi pupur du yn lle halen ar basta, wy wedi’i sgramblo ac ati.