Halen – Gwir neu Gau

Fedra i ddim bod yn bwyta gormod o halen gan nad ydw i’n ei ychwanegu at fy mwyd - GAU
Gan fod 75% o’r halen rydyn ni’n ei fwyta eisoes yn y bwyd a brynwn, fel grawnfwydydd brecwast, cawl, sawsiau, prydau parod a bisgedi, mae’n hawdd bwyta gormod o halen heb ychwanegu dim dy hun. Yn wir, gall un neu ddau ddogn o rai bwydydd gynnwys mwy na’r uchafswm a argymhellir i oedolion (6g). Mae mwy o wybodaeth ar gael yn Deall labeli bwyd.

Does dim blas ar fwyd heb halen - GAU
Os wyt ti wedi arfer gyda bwydydd sy’n uchel mewn halen, neu’n ychwanegu llawer o halen at dy fwyd, mae’n bosibl y byddi’n gweld ei eisiau wrth i ti ddechrau bwyta llai ohono. Mae hyn oherwydd bod ein blasbwyntiau’n dod i arfer â lefelau uchel o halen.

Ond gall ein blasbwyntiau ddod yn gyfarwydd â bwyta llai o halen o fewn rhai wythnosau ac yna rwyt ti’n fwy tebygol o fwynhau bwyd gyda llai o halen, neu heb halen o gwbl. Gall bwyd sy’n cynnwys llawer o halen guddio blasau mwy cynnil, felly mae’n bosibl y bydd yn well gen ti fwydydd sydd â llai o halen wedi i dy flasbwyntiau gael amser i addasu.

Mae Halen – Gair i Gall yn rhoi syniadau ar ychwanegu blas heb ddefnyddio halen.

Mae modd dweud pa fwydydd sy’n uchel mewn halen oherwydd eu bod yn blasu’n hallt - GAU
Nid yw rhai bwydydd sy’n uchel mewn halen yn blasu’n hallt iawn. Weithiau mae hyn oherwydd eu bod yn cynnwys llawer o siwgr, er enghraifft rhai bisgedi a grawnfwydydd brecwast.

Hefyd, mae ein blasbwyntiau’n dod i arfer â lefelau uchel o halen, felly mae’n bosibl na fyddet ti’n sylwi pa mor hallt yw rhai bwydydd. Mae dy flasbwyntiau’n mynd yn fwy sensitif wrth i ti fwyta llai o halen. Felly weithiau pan mae pobl yn bwyta rhywbeth roeddent yn arfer ei fwyta’n aml, maent yn synnu pa mor hallt mae’n blasu.

Dim ond hen bobl sy’n gorfod poeni am faint o halen maent yn ei fwyta - GAU
Gall bwyta gormod o halen godi dy bwysedd gwaed gwaeth beth yw dy oedran. Mae’n wir dy fod yn llai tebygol o ddatblygu clefyd y galon neu gael strôc yn dy 20au neu 30au na phan rwyt yn hŷn. Ond os oes gennyt bwysedd gwaed uchel pan rwyt ti’n ifanc, rwyt ti dal i fod mewn mwy o berygl na rhywun o’r un oedran sydd â phwysedd gwaed cyffredin.

Mae halen drud yn well i ti na halen bwrdd - GAU
Enw arall ar halen yw sodiwm clorid. Y sodiwm mewn halen sy’n gallu codi dy bwysedd gwaed. Nid yw pris yr halen, o ble mae o’n dod, neu’r ffaith a yw ar ffurf gronynnau neu grisialau yn gwneud unrhyw wahaniaeth – mae’n dal i gynnwys sodiwm.

Rwyt ti angen mwy o halen mewn hinsawdd boeth oherwydd dy fod yn chwysu gymaint - GAU
Ychydig iawn o halen rydyn ni’n ei golli drwy chwysu, hyd yn oed mewn lleoedd eithriadol o boeth. Felly does dim angen bwyta mwy o halen mewn hinsawdd boeth. Ond mae’n bwysig yfed digon o ddŵr i hydradu dy gorff.

Pe bawn i’n bwyta llai o halen ni fyddai fy nghorff yn cael digon ohono - GAU
Mae’n anodd iawn peidio bwyta digon o halen oherwydd ei fod mewn cymaint o fwydydd mae pobl yn eu bwyta bob dydd, fel grawnfwydydd brecwast, prydau parod, cawl, sawsiau a bisgedi. Mae pobl mewn rhai gwledydd yn byw ar lawer llai o halen na phobl y DU.

Byddwn yn gwybod pe bai gen i bwysedd gwaed uchel - GAU
Does gan lawer o bobl sydd â phwysedd gwaed uchel ddim symptomau, felly nid oes modd dweud bod dy bwysedd gwaed yn iawn os nad wyt wedi cael prawf. Yn Lloegr, mae gan draean o bobl (31.7% o ddynion a 29.5% o fenywod) bwysedd gwaed uchel.