Ein partneriaid

Yn nhrydydd cyfnod ei hymgyrch halen, bydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn gweithio’n agos gyda’r sefydliadau allweddol canlynol.

Sefydliad Prydeinig y Galon

Nod prosiect Coginio Cymdeithasol y Sefydliad yw lleihau faint o halen a ddefnyddir mewn ‘coginio cymdeithasol’ ar gyfer prydau sy’n cael eu paratoi mewn temlau Hindŵ a Gurdwaras Sikhiaid ac i annog y cymunedau lleol sy’n addoli yno i fwyta’n iachach. Bydd y prosiect yn cael ei gynnal yn Llundain, Bradford a Birmingham.

Meddai Betty McBride, Cyfarwyddwr Polisi a Chyfathrebu Sefydliad Prydeinig y Galon: ‘Mae yna lawer gormod o halen mewn bwyd sydd wedi’i brosesu. Ni ellir ei flasu bob tro, ac weithiau daw yn y cynhyrchion mwyaf annhebygol. Gall achosi pwysedd gwaed uchel a chynyddu’r perygl o ddatblygu clefyd y galon, felly mae’n rhaid i ni feddwl fel ditectifs ar drywydd y llofrudd cudd hwn. Yn syml, drwy ddarllen labeli a dewis yr opsiwn sy’n cynnwys llai o halen, byddi di’n gwneud lles i dy galon.’

Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol Bryste

Nod y prosiect hwn yw recriwtio a hyfforddi hwyluswyr lleol i weithio gyda chymunedau o bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig penodol ar raglen ymwybyddiaeth halen, a fydd yn cynnwys sgiliau coginio a siopa. Bydd y prosiect yn cael ei leoli ym Mryste.

Meddai Richard Weatherhead, Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth: ‘Mae Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol Bryste yn falch iawn o fod yn rhan o drydydd cyfnod ymgyrch halen yr Asiantaeth. Byddwn yn gweithio gyda phobl o gymunedau Affricanaidd Caribïaidd, Somalaidd ac Asiaidd gan weithio gyda thîm o addysgwyr cymunedol hyfforddedig. Mae ein partneriaid yn cynnwys yr Asiantaeth Ddatblygu ar gyfer Pobl Dduon a Deietegwyr Cymunedol yr Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol.’

Consensus Action on Salt and Health (CASH)

Meddai’r Athro Graham McGregor, Cadeirydd CASH: ‘Mae’r DU ar flaen y gad o ran lleihau'r halen mae pobl yn ei fwyta. Rydyn ni’n llwyr gefnogi ymgyrch newydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd am yr halen a ychwanegir at fwyd gan y diwydiant.’

‘Felly, ni ddylai’r cyhoedd brynu bwydydd os oes dewisiadau eraill sydd â llai o halen ynddynt. Bydd yr ymgyrch gyffredinol yn gostwng pwysedd gwaed a lleihau nifer y bobl sy’n dioddef ac yn marw o strociau, trawiadau ar y galon a methiant y galon, sef prif achosion anabledd a marwolaeth yn y DU.’

Diabetes UK

Bydd prosiect Diabetes UK yn gweithio gyda 100 o ysgolion cynradd i addysgu plant am halen a chynnal teithiau i siopau gyda rhieni/gofalwyr o’r ysgolion hyn. Mae hwn yn brosiect cenedlaethol.

Meddai Douglas Smallwood, Prif Weithredwr Diabetes UK: ‘Mae Diabetes UK yn llwyr gefnogi ymgyrch yr Asiantaeth Safonau Bwyd i leihau halen. Gall gormod o halen mewn deiet unigolyn godi ei bwysedd gwaed. Mae wedi dod i’r amlwg bod rheoli pwysedd gwaed yr un mor bwysig â rheoli glwcos yn y gwaed er mwyn atal nifer o’r cymhlethdodau sy’n gysylltiedig â rheoli diabetes yn wael.

‘Mae Diabetes UK yn cynnal menter ar gyfer plant a rhieni/gofalwyr, gan ddarparu deunyddiau sy’n addas i wahanol grwpiau oedran am bwysigrwydd Bwyta'n Iach, a chanolbwyntio’n benodol ar leihau halen. Bydd rhieni/gofalwyr yn mynd ar deithiau o gwmpas siopau gyda deietegwyr, gan ganolbwyntio ar labeli bwyd a lefelau halen cudd.’

Y Comisiwn Bwyd

Mae prosiect y Comisiwn Bwyd, ‘Eat Less Salt’, yn gweithio gyda phreswylwyr a staff cymdeithasau tai er mwyn:

  • gwella patrymau bwyta halen a fydd yn arwain at fwyta llai a datblygu arferion gwaith cynaliadwy
  • datblygu arferion da o ran cynnwys cymdeithasau tai mewn prosiectau i hyrwyddo Bwyta'n Iach

Bydd y prosiect yn cael ei leoli yn yr Hexagon Housing Association Residence yn Ne-ddwyrain Llundain.

Meddai Jessica Mitchell, Cyfarwyddwr y Comisiwn Bwyd: ‘Rydyn ni wrth ein bodd ein bod yn gweithio gyda’r Asiantaeth Safonau Bwyd ar gam nesaf ei hymgyrch halen. Bydd ein prosiect yn gweithio’n agos â Chymdeithas Tai Hexagon i annog staff a phreswylwyr i fwyta llai o halen drwy weithdai ‘Eat less salt’ arbennig.

‘Mae pawb sy’n rhan o’r prosiect yn llawn cyffro am y bartneriaeth hon ac yn edrych ymlaen at wneud gwahaniaeth parhaol i ddeietau.’

Ymddiriedolaeth Addysgu Gofal Sylfaenol Haringey

Bydd prosiect Ymddiriedolaeth Addysgu Gofal Sylfaenol Haringey, ‘Salt it out!’, yn mynd ati i helpu 400 o bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig i wella arferion halen drwy gyfrwng teithiau o gwmpas siopau a rhaglenni coginio a bwyta pedair wythnos. Bydd y prosiect hwn yn cael ei leoli’n Haringey ac yn targedu grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a chymunedau Twrcaidd a Gwyddelig.

Meddai Dr Ann-Marie Connolly, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd yr Ymddiriedolaeth: ‘Rydyn ni’n llwyr gefnogi ymgyrch yr Asiantaeth ac yn falch iawn o fod yn rhan o gyfnod tri'r ymgyrch.

‘Rydyn ni wedi datblygu amrywiaeth o brosiectau lleol i helpu pobl o grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig i leihau lefel yr halen y maent yn ei fwyta. Byddwn yn cynnal teithiau o gwmpas siopau groser i helpu pobl i ddeall yr wybodaeth am halen ar labeli bwyd, ac yn cynnal sesiynau coginio a bwyta ymarferol i ddangos sut i goginio prydau ethnig traddodiadol sy’n isel mewn halen. Byddwn yn cydweithio â grwpiau cymunedol i gyflawni hyn.

‘Mae’n bwysig nid yn unig fod pobl yn deall y peryglon sy’n gysylltiedig â bwyta llawer o halen, ond bod ganddynt y sgiliau ymarferol i wneud y newidiadau sydd eu hangen a’u bod yn cael cefnogaeth i wneud hynny.’

Safonau Masnach Cyngor Sir Caint

Mae prosiect Gwasanaeth Safonau Masnach Caint, ‘Working Towards Less Salt’, yn paratoi arddangosfeydd a gweithgareddau rhyngweithiol ar leihau halen yn y gweithle. Bydd deunydd darllen ategol yn cael ei ddosbarthu gyda slipiau cyflog. Bydd yn trafod cynnwys halen rhai bwydydd a gynigir yn y gweithle, er mwyn annog gwelliannau yn y bwyd sy’n cael ei ddarparu, a hynny drwy gynnig dewisiadau is mewn halen. Bydd y prosiect hwn yn cael ei gynnal yng Nghaint ac yn targedu dynion yn y gweithle.

Meddai’r Gwasanaeth: ‘Mae Gwasanaeth Safonau Masnachu Caint yn falch iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r Asiantaeth Safonau Bwyd ar drothwy trydydd cyfnod ei hymgyrch halen. Fel Gwasanaeth, rydyn ni’n awyddus i wella safonau bwyd a rhannu gwybodaeth a sgiliau i helpu defnyddwyr i wneud dewisiadau gwybodus am eu bwyd. Mae mwy a mwy o bobl yn ymwybodol o’r manteision iechyd a ddaw yn sgil lleihau halen yn eu deiet a nawr rydyn ni am fynd gam ymhellach a’u helpu i wneud y dewisiadau a fydd yn lleihau’r halen y maent yn ei fwyta.

‘Bydd Safonau Masnach Caint yn cynnal prosiect yn y gweithle ar gyfer dynion, gydag arddangosfeydd a gweithgareddau a fydd yn galluogi gweithwyr i wneud dewisiadau iachach o ran halen. Bydd y prosiect hefyd yn helpu cyflogwyr i leihau’r halen sydd yn y bwyd a ddarperir i’w gweithwyr er mwyn cynnig dewisiadau iachach.’

Food Futures Partnerhsip, Manceinion

Nod prosiect Food Futures Partnership, Manceinion, ‘Tasty not salty’, yw lleihau’r halen sy’n cael ei fwyta gan gymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig drwy gynnal sesiynau grŵp sy’n ymgorffori technegau ymddygiad. Bydd y prosiect hwn yn cael ei gynnal ym Manceinion ar gyfer grwpiau De Asiaidd a Charibïaidd.

Meddai Christine Raiswell, Rheolwr y Rhaglen: ‘Partneriaeth rhwng y sectorau cyhoeddus a phreifat i wella bwyd yn y ddinas yw Food Futures Manceinion. Rydym o’r farn fod gan bawb ym Manceinion yr hawl i gael bwyd iach: a dylai pawb gael yr un hawl waeth ble maent yn byw, beth yw eu hincwm na’u cefndir. Mae bwyd iach yn bleserus; yn ddiogel; yn faethlon; yn amgylcheddol gynaliadwy; ac wedi’i gynhyrchu’n foesegol ac yn deg.

‘Rydyn ni’n falch iawn o gael cefnogi ymgyrch lleihau halen yr Asiantaeth Safonau Bwyd. Rydyn ni wedi derbyn grant i gynnal prosiect cymunedol gyda chymunedau De Asiaidd a Charibïaidd ym Manceinion i annog pobl i fwyta llai o halen a gwella’u hiechyd.’

Fforwm Iechyd Dynion

Mae gan 33% o ddynion bwysedd gwaed uchel neu maent yn derbyn triniaeth ar ei gyfer, felly mae’n hollbwysig bod dynion yn deall peryglon bwyta gormod o halen. Mae’r ymgyrch halen yn rhan annatod o’r ymgyrch i leihau’r nifer uchel o ddynion sy’n marw cyn eu hamser.’

Biwro Cenedlaethol y Plant

Mae prosiect ‘All Salted?’ y Biwro yn targedu mamau a thadau ifanc 14-21 oed er mwyn gweithredu rhaglen sgiliau bywyd ac iechyd ar leihau halen, gan gynnwys addasu a defnyddio mesurydd halen yr Asiantaeth. Bydd cynlluniau peilot yn cael eu cynnal yng Ngwlad yr Haf a Nottingham.

Meddai Paul Ennals, Prif Weithredwr Biwro Cenedlaethol y Plant: ‘Mae Biwro Cenedlaethol y Plant yn falch iawn o gael cefnogi ymgyrch yr Asiantaeth Safonau Bwyd i leihau’r halen mae’r cyhoedd yn ei fwyta.

‘Rydyn ni’n bryderus iawn ynghylch y lefelau uchel o halen, siwgr a braster sydd mewn deietau plant. Mae’n hanfodol ein bod yn helpu plant a theuluoedd i ddechrau a chynnal ffyrdd iach o fyw, yn arbennig y rheini sy’n wynebu nifer o rwystrau wrth geisio gwneud hynny a’r bobl hynny nad yw peryglon bwyta halen yn flaenoriaeth.

‘Nod prosiect ‘All Salted?’ y Biwro yw helpu rhieni ifanc i leihau’r halen y maen nhw a’u plant yn ei fwyta a chynnal hynny drwy ddatblygu rhaglen lleihau halen a sgiliau bywyd mewn partneriaeth â rhieni ifanc. Bydd yn atgyfnerthu negeseuon ymgyrch hysbysebu’r Asiantaeth ac, yn bwysicach, bydd yn codi ymwybyddiaeth mewn cymunedau lleol o bwysigrwydd deiet iach sy’n isel mewn halen.’

Netmums

Meddai Cathy Court, Cyfarwyddwr Bwyd a Maeth Netmums: ‘Diolch i waith yr Asiantaeth ac eraill, mae’r rhan fwyaf o bobl bellach yn deall bod angen iddynt fwyta llai o halen. Yn anffodus, mae’n gallu bod yn anodd defnyddio’r wybodaeth hon a dewis deiet sy’n isel mewn halen, yn arbennig pan mae cymaint o’r halen rydyn ni’n ei fwyta wedi’i guddio mewn bwyd wedi’i brosesu. Mae nifer o rieni yn peryglu eu hiechyd ac iechyd eu plant heb sylweddoli drwy ddewis bwyd sy’n uchel mewn halen.’

‘Mae Netmums yn llwyr gefnogi ymgyrch halen yr Asiantaeth Safonau Bwyd, sy’n pwysleisio problemau halen cudd mor dda.

‘Mae Netmums yn cynnig cyngor ar fwyta’n iach i’w aelodau a bydd yn helpu’r Asiantaeth i ledaenu’r neges bwysig hon am fwyta halen.’

Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched

Meddai Fay Mansell, Cadeirydd y Ffederasiwn: ‘Rydyn ni wedi ymrwymo i wella deiet ac iechyd y genedl ers blynyddoedd maith ac rydyn ni’n parhau i gefnogi ymgyrch lleihau halen yr Asiantaeth yn llwyr. Rydyn ni’n cydnabod bod halen yn peryglu iechyd pobl ac rydyn yn annog y diwydiant bwyd i weithredu er mwyn sicrhau iechyd y genedl a pharhau i leihau halen yn eu cynhyrchion.’

Sefydliad Safonau Masnach

Meddai Ron Gainsford, Prif Weithredwr y Sefydliad Safonau Masnach: ‘Dros y blynyddoedd rydyn ni wedi bod yn frwd dros leihau lefelau halen mewn bwyd wedi’i brosesu. Rydyn ni wedi edmygu a chefnogi gwaith yr Asiantaeth i godi ymwybyddiaeth o’r hyn a ystyrir i fod yn fwyd afiach gydag ymgyrchoedd cenedlaethol fel Sid the Slug.

‘Gyda hyn, rydyn ni wedi ceisio gweithio mewn partneriaeth â’r Asiantaeth i ddatblygu pecyn cymorth a fyddai’n galluogi Swyddogion Safonau Masnach i weithio gyda busnesau i leihau’r halen sydd yn y bwyd y maent yn ei gynhyrchu. Mae hyn yn dilyn gweithgareddau eraill a gynhaliwyd gennym dros y blynyddoedd diwethaf, er enghraifft prosiect Safonau Masnach Lerpwl ar gynnwys halen a braster mewn bwyd tecawe. Mae hyn yn pwysleisio dymuniad y Gwasanaeth Safonau Masnach i ddod o hyd i atebion er mwyn gwella iechyd defnyddwyr.’