Gweithgarwch y diwydiant

Mae tua 75% o’r halen yr ydym yn ei fwyta eisoes yn y bwyd rydyn ni’n ei brynu, a’r rhan fwyaf mewn bwyd wedi’i brosesu. Mae’r ASB wedi bod yn gweithio gyda’r diwydiant bwyd i’w annog i leihau’r halen yn y bwydydd hyn.

Mae pob sector yn y diwydiant bwyd - manwerthwyr, gwneuthurwyr, cymdeithasau masnachu, arlwywyr a chyflenwyr y diwydiant arlwyo - wedi ymateb yn gadarnhaol i’r galw am leihau halen mewn bwydydd ac maent yn parhau i fod yn rhan o’r rhaglen hon. Bellach mae’r ASB wedi derbyn ymrwymiadau gan 70 o sefydliadau ar draws holl sectorau’r diwydiant bwyd i leihau halen mewn bwydydd ac mae rhai eisoes wedi llwyddo i leihau halen yn sylweddol. Mae mwy o fanylion i’w cael yn y Tabl cryno o ymrwymiadau i leihau halen.

Targedau halen

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Awst 2005, cyhoeddodd yr ASB dargedau gwirfoddol i leihau halen ym mis Mawrth 2006. Lluniwyd y targedau er mwyn rhoi arweiniad i’r diwydiant bwyd o ran y mathau o fwydydd y mae angen lleihau’r halen ynddynt, a’r hyn sydd ei angen er mwyn cyrraedd targedau cynllun strategol yr ASB o fwyta dim mwy na 6g o halen bob dydd. Mae’r targedau’n cynnwys 85 o gategorïau bwyd wedi’i brosesu, gan gynnwys bwydydd bob dydd fel bara, cig moch, ham, grawnfwydydd brecwast a chaws, a bwydydd cyfleus fel pizza, prydau parod, byrbrydau sawrus, cacennau a chynhyrchion toes.

Bydd y targedau halen uchelgeisiol yn effeithio’n sylweddol ar lefel yr halen y bydd defnyddwyr yn ei fwyta, a byddant hefyd yn ystyried diogelwch bwyd a materion technegol. Mae’r rhan fwyaf o sefydliadau sydd wedi ymrwymo i leihau halen bellach yn gweithio i gyrraedd y targedau hynny. Mae mwy o wybodaeth i gael yn ‘Cynnydd gyda’r diwydiant o ran lleihau halen� ar brif wefan yr Asiantaeth.

Mae’r ASB bellach yn y broses o ddyfeisio fframwaith hunan-adrodd, a fydd yn cael ei ddefnyddio i wirio cynnydd y diwydiant bwyd mewn perthynas â’r targedau hyn. Bydd yr ASB yn adolygu’r targedau lleihau halen yn 2008 i weld faint o gynnydd pellach sydd ei angen, os o gwbl, er mwyn sicrhau bod pobl yn bodloni’r targed o 6g y dydd ar gyfartaledd.

Manwerthwyr

Mae’r manwerthwyr mwyaf, gan gynnwys Asda, Marks and Spencer, Sainsbury’s, Tesco a Waitrose, yn ogystal ag Iceland, Co-op, Somerfield, Budgens a Spar, yn gweithio tuag at dargedau gwirfoddol yr ASB ar gyfer lleihau halen. Mae rhai manwerthwyr fel Waitrose, Asda a Co-op yn bwriadu cyrraedd y targedau cyn 2010.

  • Mae hanner cynhyrchion bwydydd brand Tesco ei hun (50%) bellach yn cyrraedd y targedau halen.
  • Mae Marks and Spencer yn anelu at gyrraedd targedau’r ASB mewn meysydd allweddol fel uchafswm, yn hytrach na chyfartaledd.
  • Mae Sainsbury’s wedi lleihau’r halen yn ei fara tafellog ei hun i gyrraedd y targedau, sy’n un o’r tri chynnyrch mwyaf poblogaidd ym masgedi siopa cwsmeriaid Sainsbury’s.
  • Mae brechdanau Boots bellach yn cyrraedd targedau halen yr ASB.

Gwneuthurwyr

Mae gwneuthurwyr bwyd mawr fel McCain, Heinz, Bernard Matthews, Premier Foods, Northern Foods, Nestlé ac Unilever yn gweithio tuag at gyrraedd y targedau ar gyfer lleihau halen.

  • Mae McCain wedi haneru’r halen sy’n cael ei ychwanegu at rai o’i gynhyrchion tatws ac wedi lansio cynnyrch ‘dim halen wedi’i ychwanegu’.
  • Mae Unilever wedi cynnwys targedau’r ASB yn ei holl brosiectau sawsiau coginio o 2006 ymlaen ac mae dros 60% o’i gynhyrchion bellach yn cyrraedd y targedau. Hefyd, mae Unilever wedi cynnwys targedau ar gyfer lleihau halen yn ei fyrbrydau Pot Noodle ac yn anelu at sicrhau 25% o ostyngiad ar gyfartaledd yn ei holl fwydydd.
  • Mae Heinz wedi sicrhau bod traean yn llai o halen mewn ffa pob a phasta tun, ac yn ddiweddar mae wedi lansio sôs coch â llai o halen, sydd o dan y targedau ar gyfer 2010.
  • Mae Kraft wedi lleihau’r halen mewn sbrediau caws a byrbrydau 33%.
  • Mae bwydydd parod Birds Eye bellach yn cynnwys llai na 2g o halen.

Arlwywyr

Mae nifer o arlwywyr hefyd yn anelu i gyrraedd y targedau ar gyfer halen gan gynnwys 3663, Brakes a Scolarest.

  • Mae cwmni 3663 wedi gostwng lefel yr halen sydd yn ei gynnyrch brand, a hynny 26%. Mae hefyd wedi ymrwymo i leihau lefelau halen 50% yn gyfan gwbl.
  • Nid yw KFC bellach yn rhoi halen ar ei sglodion.
  • Mae McDonalds wedi lleihau’r halen yn ei gynnyrch rhwng 14% a 75% ac mae’n dal i’w ostwng.
  • Mae gan Compass Group, arlwywr contract mawr sy’n darparu prydau bwyd i ysgolion ac ysbytai, raglen i adolygu faint o halen sydd mewn cynhyrchion ac mae’n rhaid i’w gyflenwyr gyrraedd targedau halen yr ASB neu weithio tuag atynt.

Sefydliadau Masnach

Mae Cymdeithas Gwneuthurwyr Grawnfwydydd (ACFM) a Chymdeithas Gwneuthurwyr Byrbrydau, Cnau a Chreision yn gweithio tuag at dargedau halen yr ASB.

  • Rhwng 1998-2006 bu gostyngiad o 38% yn yr halen a ddefnyddiwyd mewn grawnfwydydd gan ACFM.
  • Mae’r Ffederasiwn Pobwyr Bara wedi gostwng traean (30%) ar yr halen mewn bara tafellog.
  • Mae’r Ffederasiwn Bwyd a Diod, fel rhan o brosiect Neptune, wedi lleihau tua chwarter (25% a 29%) ar yr halen mewn cawl a sawsiau.