Faint yw 6g?
Tua llond llwy de yw 6g o halen. Nid yw hyn yn llawer, yn enwedig o ystyried bod 75% o’r halen rydyn ni’n ei fwyta eisoes yn y bwyd a brynwn.
Byddai’n anodd iawn cyfrifo’n union faint o halen rwyt ti’n ei fwyta mewn diwrnod, oherwydd byddai angen i ti wybod cynnwys halen y bwydydd a mesur faint o’r bwyd rwyt ti’n ei fwyta.
Ond mae’n ddefnyddiol gwybod mai 6g yw’r mwyaf y dylet ti ei fwyta, oherwydd os wyt ti’n edrych faint o halen sy’n y bwyd rwyt ti’n ei fwyta fel arfer, yna fe weli pa mor hawdd yw hi i fwyta mwy na 6g.
Un o’r ffyrdd hawsaf o dorri lawr ar halen yw cymharu bwydydd a dewis y rhai sydd â llai o halen mor aml â phosibl. Mae Deall labeli bwyd yn rhoi mwy o wybodaeth. Yn aml mae halen wedi’i restru fel sodiwm ar labeli bwyd. Mae mwy am hyn yn Sodiwm a halen.