Hanes halen

Yr awydd am halen
Mae gan bobl berthynas agos â halen. Mae ein dagrau, gwaed a chwys yn blasu o halen.
Mae’r adweithiau cemegol yn ein cyrff angen sodiwm – un o’r ddwy elfen sy’n gwneud halen (ynghyd â chlorid).
Ni allwn fyw heb sodiwm, ond aeth pum miliwn o flynyddoedd heibio cyn i bobl ddechrau bwyta sodiwm ar ffurf halen.
Nid oedd helwyr yn y Lasynys yn bwyta halen nes i Ewropeaid oedd yn morfila yno ei gyflwyno iddyn nhw yn yr ail ganrif ar bymtheg. Fel ein cyndadau cynhanesyddol, roedd y Lapiaid, y Samoiediaid, y Cirgisiaid, y Bedwyniaid, y Masais a’r Zwlŵaid yn cael yr holl sodiwm oedd ei angen arnyn nhw o’r anifeiliaid a’r pysgod roedden nhw’n eu bwyta.
Amaethyddiaeth a halen
Mae archeolegwyr yn credu bod bwyta halen wedi datblygu wrth i bobl ddysgu sut i gadw anifeiliaid a thyfu cnydau yn y blynyddoedd wedi 10,000 CC. Wrth iddyn nhw fwyta llai o gig yn eu deiet, roedd rhaid i bobl ddod o hyd i halen dros eu hunain a’u hanifeiliaid.
Cadw bwyd
Mae gan halen nodwedd hollbwysig arall a’i wnaeth yn bwysig i ddatblygiad cymdeithas ddynol. Erbyn 2000 CC, gwyddai pobl fod ychwanegu halen at fwyd yn ei atal rhag difetha. Defnyddiwyd halen i gadw cig, pysgod a llysiau, ac i greu bwyd moethus fel olewydd wedi’u halltu, a oedd yn dod ag amrywiaeth i’r deiet.
Daeth prynu a gwerthu halen yn un o’r gweithgareddau masnach pwysicaf yn y byd.
Cyflenwad halen
Halen yw un o’r mwynau mwyaf cyffredin ar y ddaear. Mae ffynhonnau a llynnoedd hallt yn sychu gan adael crisialau halen y gellir eu casglu. Gellir echdynnu halen o ddŵr y môr drwy’i ferwi neu’i adael i anweddu. Mewn rhai llefydd, mae halen solet yn ymddangos ar wyneb y ddaear a gellir ei gasglu neu’i gloddio. Gellir cloddio ffynhonnau i gyrraedd cyflenwadau tanddaearol o ddŵr hallt.
Darganfu Tsieineiaid ac Eifftwyr yr henfyd, y Celtiaid, y Rhufeiniaid ac eraill sut i wneud halen o’r ffynonellau hyn. Ond er eu hymdrechion, roedd halen yn parhau i fod yn brin tan yr oes fodern.
Masnachu halen
Roedd halen yn ddrud oherwydd y gwaith roedd ei angen i’w echdynnu a’r gost uchel o’i gludo ar hyd afonydd, dros y môr a thros y tir. Roedd masnachu halen yn gwneud y masnachwyr yn gyfoethog. Cododd llywodraethwyr Rhufeinig a Tsieineaidd drethi ar halen neu ddechrau rheoli’r fasnach eu hunain 2,500 o flynyddoedd yn ôl. Pan roedd gwledydd am fynd i ryfel, roedden nhw’n codi trethi ar halen. Trethi a rheolaeth Prydain o’r fasnach halen a sbardunodd ymgyrch lwyddiannus am annibyniaeth yn India.
Halen a defod
Mae halen wedi bod yn rhan bwysig o ddychymyg pobl dros y canrifoedd. Mewn nifer o grefyddau, roedd halen yn cael ei roi fel bendith. Roedd pobl yn credu ei fod yn cael gwared ar ysbrydion drwg ac fe’i cysylltwyd â ffrwythlondeb a chwant rhywiol.
Mae hanes halen i’w weld yn yr iaith Saesneg gyfoes. Fe ddefnyddir y gair ‘salary’ am gyflog oherwydd talwyd milwyr Rhufeinig yn rhannol mewn halen (‘salarium’ yn Lladin). Defnyddir y gair ‘salacious’ i ddisgrifio clecs anweddus mae’n debyg oherwydd y cysylltiad â chariad yn Oes y Rhufeiniaid.
Defnydd newydd o halen
Tan y bedwaredd ganrif ar bymtheg, defnyddiwyd halen yn bennaf mewn bwyd, er ei fod yn cael ei ddefnyddio hefyd i drin lledr, lliwio tecstilau a gwneud crochenwaith. Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, llwyddodd cemegwyr i ganfod ffyrdd o ddefnyddio halen i wneud amrywiaeth o gemegau newydd. Mae gwneuthurwyr yn honni fod yna mwy na 14,000 o ffyrdd o ddefnyddio halen erbyn hyn.
O ganlyniad i’r galw diwydiannol am halen, gwelwyd twf yn y diwydiant a llawer mwy o gloddio dwfn a drilio am halen. Daeth prinder halen i ben i bob pwrpas erbyn canol y 19eg ganrif.
Halen mewn bwyd wedi’i brosesu
Tan y bedwaredd ganrif ar bymtheg, defnyddiwyd halen yn bennaf mewn bwyd, er ei fod yn cael ei ddefnyddio hefyd i drin lledr, lliwio tecstilau a gwneud crochenwaith. Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, llwyddodd cemegwyr i ganfod ffyrdd o ddefnyddio halen i wneud amrywiaeth o gemegau newydd. Mae gwneuthurwyr yn honni fod yna mwy na 14,000 o ffyrdd o ddefnyddio halen erbyn hyn. O ganlyniad i’r galw diwydiannol am halen, gwelwyd twf yn y diwydiant a llawer mwy o gloddio dwfn a drilio am halen. Daeth prinder halen i ben i bob pwrpas erbyn canol y 19eg ganrif.
Pan ddyfeisiwyd dulliau o gadw bwyd yn oer, roedd hi’n bosibl cludo cig ledled y byd heb ddefnyddio halen.
Wrth i bobl ddechrau bwyta llai o gigoedd a physgod wedi’u halltu, cyflwynwyd mwy o dechnegau cadw newydd mewn gwledydd diwydiannol. Bu i duniau, pacedi a bisgedi, cacennau a byrbrydau parod ac, yn ddiweddarach, prydau cyfan, drawsnewid ein harferion bwyta. Ychwanegwyd halen i helpu i gadw’r bwyd ac i wella’r blas. Nawr, mae 75% o’r halen rydyn ni’n ei fwyta yn y DU eisoes yn y bwyd a brynwn.