Halen Cudd

Halen Cudd

Pan mae’r rhan fwyaf o bobl yn meddwl am halen, maent yn meddwl am roi peth ar eu bwyd, neu ychwanegu pinsiad wrth goginio.

Er ei bod yn bwysig ceisio rhoi’r gorau i’r arfer o ddefnyddio halen fel hyn, mae’n rhaid i ti hefyd fod yn ofalus o’r halen na fedri di ei weld.

Y bwyd yr ydym yn ei brynu
Mae oddeutu tri chwarter (75%) yr halen rydyn ni’n ei fwyta eisoes yn y bwyd a brynwn, gan gynnwys bwydydd wedi’u prosesu fel prydau parod, sawsiau, ffa pob a pizza.

Mae bron pawb yn bwyta’r mathau hyn o fwyd. Mae hyd yn oed pobl sy’n gwneud eu bwyd eu hunain fel arfer yn prynu bwyd fel bara a chaws, sy’n cynnwys halen.

Felly, cyn i ti feddwl nad wyt ti’n bwyta gormod o halen, cymer olwg ar beth rwyt ti’n ei brynu, yn ogystal â sut rwyt ti’n defnyddio halen gartref.

Cofia fod faint o fwyd arbennig rwyt ti’n ei fwyta yn effeithio ar faint o halen y cei di ohono.

Bwydydd lle mae rhai brandiau/ryseitiau yn uchel mewn halen

  • Ffa pob
  • Grawnfwydydd brecwast
  • Cynhyrchion bara fel cramwythau, bagels a ciabatta
  • Sawsiau coginio a sawsiau pasta
  • Creision
  • Pizza
  • Prydau parod
  • Cawl
  • Brechdanau
  • Selsig
  • Sôs coch, mayonnaise a sawsiau eraill

Bwydydd sy’n aml yn uchel mewn halen

  • Ansiofis
  • Cig moch
  • Caws
  • Sglodion (os ychwanegir halen)
  • Gronynnau grefi
  • Ham
  • Olewydd
  • Piclau
  • Corgimychiaid
  • Salami
  • Cnau wedi’u halltu neu’u rhostio
  • Pysgod hallt
  • Cig a physgod mwg
  • Saws soi
  • Ciwbiau stoc
  • Trwyth burum

Does dim rhaid i ti roi’r gorau i fwyta bwydydd sy’n uchel mewn halen yn gyfan gwbl, ond mae’n syniad da i fwyta llai ohonynt neu’u bwyta’n llai aml. Hefyd, pan rwyt ti’n siopa, darllena’r label a cheisia ddewis brandiau/ryseitiau sy’n cynnwys llai o halen. Mae mwy o wybodaeth yn Deall labeli bwyd.