Bwyta'n Iach

Dim ond rhan o fwyta’n iach yw bwyta llai o halen. Mae bwyta deiet iach sy’n llawn ffrwythau a llysiau, yn uchel mewn ffibr, ac yn isel mewn halen a braster (yn enwedig braster dirlawn) yn gallu helpu i:

  • leihau dy bwysedd gwaed
  • lleihau’r perygl o glefyd y galon
  • lleihau’r perygl o strôc
  • lleihau’r perygl o rai mathau o ganser

Er bod llawer o bobl yn credu eu bod yn bwyta deiet iach, yn aml nid yw hyn yn wir. Nid yw’r rhan fwyaf o bobl yn y DU yn bwyta digon o ffrwythau a llysiau na ffibr ac maen nhw’n bwyta gormod o halen a braster, yn enwedig braster dirlawn.

Ffrwythau a llysiau
Dylai pawb geisio bwyta o leiaf pum dogn o ffrwythau a llysiau amrywiol bob dydd. Mae ffrwythau a llysiau ffres, sych, tun ac wedi’u rhewi yn cyfri tuag at dy ddognau dyddiol. Mae sudd hefyd yn cyfri fel uchafswm o un dogn y dydd. Dyma enghreifftiau o un dogn:

  • un afal, oren neu fanana
  • un llwy fwrdd dda o ffrwythau sych
  • llond llaw o rawnwin, ceirios neu aeron
  • tair llwy fwrdd dda o lysiau
  • gwydraid o sudd ffrwythau (150ml)

Ffibr
Gall bwyta deiet sy’n uchel mewn ffibr helpu i leihau dy lefelau colesterol, sy’n gallu lleihau’r tebygolrwydd i ti ddatblygu clefyd y galon.

Er mwyn bwyta mwy o ffibr, ceisia fwyta mathau grawn cyflawn o fwydydd startsh, fel bara gwenith cyflawn, grawnfwydydd brecwast grawn cyflawn, reis brown a phasta grawn cyflawn. Mae cael digon o ffibr yn rheswm da arall i fwyta digonedd o ffrwythau a llysiau.

Braster
Gall bwyta bwyd sy’n uchel mewn braster annirlawn helpu i atal clefyd y galon drwy leihau dy lefelau colesterol. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • afocados
  • cnau (dewisa rai heb eu halltu)
  • olewau llysiau fel blodyn yr haul, olewydd, ŷd, cnau Ffrengig a had rêp

Mae bwyta bwyd sy’n uchel mewn braster dirlawn yn cynyddu’r perygl o ddatblygu clefyd y galon. Mae hyn oherwydd bod y math hwn o fraster yn gallu codi dy lefelau colesterol. Mae bwydydd sy’n uchel mewn braster dirlawn yn cynnwys:

  • pastai cig
  • selsig
  • menyn, ghee a lard
  • hufen
  • caws caled
  • cacennau a bisgedi
  • bwyd sy’n cynnwys olew cnau coco neu balmwydd

Felly, ceisia fwyta llai o fraster dirlawn a dewis bwyd sy’n cynnwys braster annirlawn yn ei le. Mae’n bwysig lleihau cyfanswm y braster rwyt ti’n ei fwyta hefyd.

Mae’r wefan Bwyta'n Iach yn rhoi mwy o wybodaeth am fwyta’n iach.