Cefnogi’r ymgyrch

Fel rhan o’i hymgyrch halen, mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi bod yn cydweithio’n agos ag amrywiaeth eang o randdeiliaid, gan gynnwys sefydliadau allweddol y diwydiant, elusennau a sefydliadau anllywodraethol eraill. Isod ceir dyfyniadau gan rai o’r sefydliadau sy’n cefnogi ymgyrch halen yr Asiantaeth.

Mae’r dudalen Ein partneriaid yn rhoi manylion y sefydliadau rydym wedi bod yn cydweithio’n agos iawn â hwy ar weithgareddau i gefnogi’r ymgyrch.

Mae’r dudalen Gweithgarwch y diwydiant yn rhoi manylion am yr hyn mae’r diwydiant bwyd yn ei wneud i leihau lefelau halen.

Caroline Flint MP
Y Gweinidog dros Iechyd y Cyhoedd, Yr Adran Iechyd

'Rhaid i bawb wneud ei siâr os ydyn ni am gyrraedd targed y Llywodraeth o 6g o halen y dydd erbyn 2010. Mae codi ymwybyddiaeth cwsmeriaid yn rhan annatod o annog y farchnad i ddewis opsiynau is mewn halen, ac yn ategu ein gwaith partneriaeth â’r diwydiant bwyd wrth geisio lleihau halen drwyddo draw.'

Fiona Adshead
Dirprwy Brif Swyddog Meddygol, Yr Adran Iechyd

'Fel meddyg iechyd y cyhoedd, gallaf weld manteision sylweddol i iechyd o godi ymwybyddiaeth cwsmeriaid ynghylch peryglon bwyta llawer o halen a’r cysylltiad â chlefyd coronaidd y galon. Mae’n tanlinellu pwysigrwydd gweithio yn y diwydiant bwyd i leihau halen mewn bwyd wedi’i brosesu.'

Dr Tony Jewell
Prif Swyddog Meddygol, Llywodraeth Cynulliad Cymru

'Ers i’r Asiantaeth Safonau Bwyd gyflwyno ei hymgyrch halen yn 2004, mae wedi codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o halen yn y deiet a chanlyniadau bwyta mwy na’r 6g y dydd a argymhellir.

Mae gweithwyr iechyd proffesiynol yng Nghymru yn ymwybodol iawn o’r effaith y gall bwyta llawer o halen ei chael ar bwysedd gwaed, gan arwain at glefyd coronaidd y galon a strôc yn y pen draw. Gyda 75% o’r halen sy’n cael ei fwyta bob dydd yn dod o fwyd wedi’i brosesu, mae’r cyfnod diweddaraf hwn o ymgyrch yr Asiantaeth yn dangos ffyrdd hawdd a syml o fwyta llai o halen i’r cyhoedd - fel darllen labeli a phrynu’r dewis isaf mewn halen. Rwy’n falch o fod yn cefnogi’r ymgyrch hwn.'

Consortiwm Manwerthu Prydain
Kevin Hawkins, Cyfarwyddwr Cyffredinol

'Rydyn ni’n falch o gefnogi cyfnod nesaf yr ymgyrch halen. Mae ein haelodau yn cydnabod pwysigrwydd y broblem ac wedi gwneud cynnydd cyson dros nifer o flynyddoedd, gan leihau’r halen sy’n eu cynnyrch yn sylweddol a rhoi gwybodaeth effeithiol i gwsmeriaid i’w helpu i wneud dewisiadau iachach.'

Y Ffederasiwn Bwyd a Diod
Melanie Leech, Cyfarwyddwr Cyffredinol

'Mae gwneuthurwyr bwyd wedi gwneud cynnydd sylweddol wrth leihau halen mewn bwyd. Mae’r Ffederasiwn yn cefnogi gwaith yr Asiantaeth i annog cwsmeriaid i edrych ar lefelau halen yn eu bwyd. Mae ein haelodau yn rhoi gwybodaeth am gynnwys halen ar becynnau, yn ogystal â’r wybodaeth am sodiwm mae’r gyfraith yn gofyn amdani, lle bo’n ymarferol. Maen nhw hefyd yn rhoi gwybodaeth am halen ar flaen pecynnau ar gyfer siopwyr prysur.'

Y Gymdeithas Llywodraeth Leol (CLlL)

'Un o brif amcanion y CLlL yw cydweithio ag amrywiaeth eang o randdeiliaid i greu cymunedau iachach. Mae’r CLlL gant y cant o blaid ymgyrch yr Asiantaeth i leihau lefelau halen mewn bwyd, a fydd yn dod â manteision sicr, yn enwedig i iechyd y galon. Bydd gwasanaethau rheoliadol yr awdurdodau lleol yn parhau i weithio gyda busnesau i ddarparu manteision ymgyrch yr Asiantaeth.'

Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA)
Yr Athro Vivienne Nathanson, Pennaeth Gwyddoniaeth a Moeseg

'Mae’r BMA yn falch iawn fod yr Asiantaeth yn lansio ymgyrch bwyta llai o halen. Gall gormod o halen mewn deiet arwain at bwysedd gwaed uchel, sy’n gallu cynyddu’r perygl o gael clefyd y galon neu strôc.

Mae angen addysgu’r cyhoedd bod newidiadau syml i’w deiet yn gallu gostwng cyfanswm yr halen maen nhw’n ei fwyta i lefel iach. Er enghraifft, bwyta llai o fwyd wedi’i brosesu sy’n aml yn uchel mewn halen, ychwanegu llai o halen wrth goginio a pheidio ychwanegu halen at fwyd sydd wedi’i goginio.'

Fforwm Cenedlaethol y Galon
Paul Lincoln, Prif Weithredwr

'Dylai pob manwerthwr a gwneuthurwr bwyd ddefnyddio system labelu goleuadau traffig yr Asiantaeth ar flaen pecynnau fel bod pawb yn ein cymdeithas yn gwybod yn syth os yw’r halen mewn cynnyrch bwyd yn uchel neu’n isel yn ôl lefelau a argymhellir. Bydd hyn yn ysgogi gwneuthurwyr i ail-greu cynnyrch a fydd yn arwain at ddiwylliant bwyd iachach. Mae cwsmeriaid am i bopeth fod yn glir heb halen cudd na labeli dryslyd. Dylai’r diwydiant bwyd groesawu’r newidiadau hyn yn frwd.'

Co-op
Debbie Robinson, Cyfarwyddwr Marchnata Manwerthu Bwyd

'Mae’r Co-operative Group yn croesawu ymgyrch yr Asiantaeth i godi ymwybyddiaeth pobl o’r angen i fwyta llai o halen. Rydyn ni wedi gwneud cynnydd sylweddol wrth leihau halen sy’n ein cynhyrchion ac yn credu bod hyn, ynghyd â labeli goleuadau traffig ar flaen pecynnau, yn helpu’n cwsmeriaid i wneud dewisiadau iachach.'

Marks and Spencer
Sue Bell, Rheolwr Technegol ar Bolisi ac Iechyd

'Mae Marks and Spencer yn falch iawn fod yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn lansio cyfnod newydd o’i hymgyrch halen. Mae ymgyrchoedd halen blaenorol yr Asiantaeth wedi llwyddo i wella dealltwriaeth cwsmeriaid fod gormod o halen yn ddrwg i iechyd. Credwn fod y cyfnod nesaf hwn yn adeiladu ar hyn drwy bwysleisio i gwsmeriaid bod angen iddyn nhw fod yn ymwybodol o halen a ychwanegir ar y bwrdd bwyd yn ogystal â’r halen sydd eisoes yn y bwyd maen nhw’n ei brynu.

Fel busnes, rydyn ni’n ymwybodol iawn o hyn ac felly wedi gweithio i leihau halen yn ein bwyd ers 1998, cymaint felly fel ein bod yn wedi llwyddo i gyrraedd nifer o dargedau halen 2010 yr Asiantaeth mewn meysydd allweddol, fel prydau parod, bara, sawsiau pasta a brechdanau. Rydyn ni hefyd wedi ymrwymo i ddarparu labeli sy’n cynnwys gwybodaeth glir i helpu cwsmeriaid i ddeall ar gip faint o halen sy’n ein bwyd ac mi fyddwn yn parhau i gyfleu ein cynnydd a llwyddiannau ar leihau halen i’n cwsmeriaid a’n gweithwyr. Edrychwn ymlaen at weithio gyda’r Asiantaeth yn ei hymgyrchoedd yn y dyfodol.'

Nestlé

'Mae Nestlé yn falch o gefnogi ymgyrch halen yr Asiantaeth drwy gynnwys negeseuon cadarnhaol am leihau halen ar bacedi grawnfwydydd brecwast Shredded Wheat a Shreddies. Rydyn ni wedi lleihau halen yn ein holl gynhyrchion, gyda gostyngiad o 30% yn ein grawnfwydydd dros y saith mlynedd diwethaf. Erbyn hyn mae Nestlé yn cyrraedd targedau halen 2010 yr Asiantaeth yn ei holl fwydydd.'

Sainsbury's

'Mae Sainsbury’s yn falch o fod yn rhan o ymgyrch lleihau halen yr Asiantaeth am y drydedd flwyddyn yn olynol ac yn llwyr gefnogi targedau halen 2010 yr Asiantaeth. Mae ein timau datblygu a’n cyflenwyr wedi bod yn gweithio i leihau halen ac rydyn ni wedi cyrraedd neu ragori ar y targedau hyn dair neu bedair blynedd yn gynt na’r disgwyl mewn nifer o gategorïau fel cawl, ffa pob, bara cyffredin, selsig a pizzas wedi’u rhewi.'

Age Concern
Gordon Lishman, Cyfarwyddwr Cyffredinol

'Dylai pobl hŷn yn arbennig gymryd sylw o ymgyrch halen yr Asiantaeth Safonau Bwyd, oherwydd gallai eu helpu i wella eu hiechyd. Mae pobl hŷn yn dueddol o ddefnyddio llawer o halen, sy’n golygu bod perygl iddyn nhw ddatblygu pwysedd gwaed uchel, sy’n gallu arwain at strôc neu glefyd y galon. Addysgu’r cyhoedd yw’r cam cyntaf i wneud gwahaniaeth a dyna pam mae’r ymgyrch hon yn bwysig. Mae grwpiau Age Concern yn gweithio ledled y wlad gyda phobl hŷn drwy Uwch Fentoriaid Iechyd i roi cyngor i bobl hŷn a’u helpu i fyw’n iachach, yn cynnwys bwyta llai o halen.’

Asda
Andy Bond, Llywydd

'Gwyddom fod ein cwsmeriaid am i ni eu helpu i fwyta’n fwy iach, dyna pam rydyn ni’n gweithio’n agos gyda’r Asiantaeth i annog ein cwsmeriaid i edrych faint o halen sy’n eu bwydydd bob dydd a dewis cynnyrch isel mewn halen.

Rydyn ni wedi ymrwymo i wneud cymaint ag y gallwn i wneud ein cynhyrchion yn fwy iach ond ar yr un pryd yn sicrhau nad ydyn ni’n cynyddu costau i gwsmeriaid, felly does dim angen iddyn nhw dalu mwy am y fraint o fwyta’n fwy iach.'

Cymdeithas Gwneuthurwyr Grawnfwydydd (ACFM)

'Mae aelodau ACFM wedi bod yn lleihau halen yn eu cynhyrchion ers nifer o flynyddoedd a chefnogwn waith yr Asiantaeth i annog cwsmeriaid i edrych ar gynnwys halen eu bwyd. Mae gwneuthurwyr grawnfwydydd wedi sicrhau gostyngiad sylweddol o 38% yn lefelau halen grawnfwydydd brecwast rhwng 1998 a 2006, sy’n golygu mai dim ond 0.36g o sodiwm sydd ym mhob 100g ar gyfartaledd, sy’n cyfateb i lai na 5% o gyfanswm halen dyddiol cyfartalog oedolyn.'

Birds Eye

'Mae Birds Eye yn llwyr gefnogi ymgyrch yr Asiantaeth i godi ymwybyddiaeth cwsmeriaid o effeithiau bwyta gormod o halen. Mae ein dewis o dros 20 o brydau parod eisoes yn cyrraedd targedau halen sydd wedi’u pennu ar gyfer 2010 gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, sef gostyngiad cyfartalog o 37% mewn halen ym mhob 100g yn yr holl fwydydd. Mae’r holl brydau parod Captain yn cynnwys llai na 25% o’r halen ddylai plant rhwng 5 a 10 oed fod yn ei fwyta’n ddyddiol.'

Cymdeithas Gardiofasgwlaidd Prydain
Nicholas Brooks, Cyfarwyddwr

'Mae Cymdeithas Gardiofasgwlaidd Prydain yn llwyr gefnogi’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn ei hymgyrch i addysgu’r cyhoedd am beryglon gormod o halen yn eu deiet a’r manteision posibl, sef lleihau’r perygl o ddatblygu pwysedd gwaed uchel, clefyd y galon a strôc, sy’n dod o fwyta llai o halen.'

Cymdeithas Ddeieteg Prydain

''Mae Cymdeithas Ddeieteg Prydain yn croesawu ymgyrch barhaus yr Asiantaeth i godi ymwybyddiaeth o faint o halen sydd mewn bwyd. Mae gwybod sut i adnabod bwydydd llawn halen a labeli clir i ddangos lefelau halen yn gamau pwysig at ddewis bwydydd iachach.

Mae’n bosibl y bydd bwyd cyfleus a bwyd wedi’i brosesu yn parhau i fod yn rhan o’n deietau. Mae helpu pobl i ddeall sut a phryd i fwyta’r bwydydd hyn yn hanfodol wrth geisio sicrhau deiet iach. Mae gan ddeietegwyr swyddogaeth bwysig o roi’r wybodaeth hon mewn cyd-destun i gwsmeriaid a dangos sut i wneud newidiadau ymarferol ar gyfer dilyn deiet iach.'

Sefydliad Maetheg Prydain

'Mae unigolion yn gyfrifol am eu hiechyd eu hunain. Ond, heb labeli clir a chywir, mae’n anodd i’r cyhoedd wneud dewisiadau iach a chadw cofnod o faint o halen y maen nhw’n ei fwyta bob dydd. Mae Sefydliad Maetheg Prydain yn cefnogi ymgyrch yr Asiantaeth i atgoffa’r cyhoedd o’r targed 6g y dydd ac i bwysleisio’r angen i edrych faint o halen sydd yn y bwyd rydyn ni’n ei brynu.'

Heart of Mersey
Modi Mwatsama, Rheolwr y Rhaglen Bwyd ac Iechyd

‘Rydyn ni’n falch iawn o allu cefnogi trydydd cyfnod ymgyrch halen yr Asiantaeth, gan fod bwyta gormod o halen yn cynyddu’r perygl o glefyd cardiofasgwlaidd. Ymgyrch sy’n codi ymwybyddiaeth y cyhoedd ynghyd ag ail-fformiwleiddio cynnyrch yn y diwydiant bwyd a labeli clir, syml yw’r hyn sydd ei angen i fynd i’r afael â’r lefelau uchel o halen, braster dirlawn a maetholynnau eraill y mae pobl yn eu bwyta.

�Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid ledled Glannau Merswy i ledaenu negeseuon yr ymgyrch ymysg y cyhoedd drwy gynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau rhyngweithiol, llawn hwyl mewn canolfannau trefol a chymunedol.’

HEART UK
Michael Livingston, Cyfarwyddwr

'Mae HEART UK yn croesawu ymgyrch yr Asiantaeth i dynnu sylw at gynnwys halen nifer o fwydydd bob dydd ac i helpu cwsmeriaid i ganfod dewisiadau eraill sy’n cynnwys llai o halen. Hwb arall i HEART UK yw bod cynifer o wneuthurwyr yn lleihau lefelau halen yn eu cynhyrchion, ac felly’n creu mwy o ddewis.'

Heinz
Dave Woodward, Llywydd y DU ac Iwerddon

'Mae gan Heinz hanes hir o leihau halen mewn bwyd yn gyson ac yn falch o gefnogi cyfnod diweddaraf ymgyrch yr Asiantaeth. Eleni mae Heinz wedi lansio sôs coch sy’n cynnwys 30% yn llai o siwgr a halen na’r cynnyrch cyffredin a llai o halen na thargedau 2010 yr Asiantaeth. Mae Heinz yn parhau i fod wedi ymrwymo i adolygu lefelau halen a ychwanegir.'

Cydgysylltwyr Gwasanaethau Rheoliadol yr Awdurdodau Lleol (LACORS)
Councillor Geoffrey Theobald, Cadeirydd

'Mae gwasanaethau rheoliadol yr awdurdodau lleol a gyd-gysylltir gan LACORS yn parhau i gefnogi ymgyrch yr Asiantaeth i leihau lefelau halen mewn bwyd. Bydd swyddogion awdurdodau lleol yn gweithio â busnesau bwyd i’w hannog i leihau lefelau halen yn unol â chanllawiau’r Asiantaeth ac mae cryn gynnydd wedi’i gyflawni eisoes mewn perthynas â hyn. Bydd samplau’n parhau i gael eu cymryd i asesu lefelau halen, monitro tueddiadau a nodi sectorau a chynnyrch bwyd sydd angen sylw pellach.'

McCain

'Mae McCain yn croesawu unrhyw fenter sy’n codi ymwybyddiaeth o broblemau iechyd a maeth. Rydyn ni wedi gweithio’n ddiwyd dros y blynyddoedd i sicrhau bod ein cynnyrch mor iach â phosibl ac yn falch o ddangos goleuadau traffig gwyrdd ar gyfer halen ar lawer ohonyn nhw. Rydym yn falch o gefnogi ymgyrch ‘Gormod ar dy blât’ yr Asiantaeth Safonau Bwyd.'

Cyngor Ymchwil Feddygol

'Mae’r Cyngor Ymchwil Feddygol yn croesawu cyfnod diweddaraf ymgyrch halen yr Asiantaeth. Mae ymchwil wyddonol yn dangos fod yna gysylltiad rhwng bwyta gormod o halen a phwysedd gwaed uchel, sy’n arwain at strociau a chlefyd y galon.

Mae’r targed o 6g y dydd yn llawn her ond yn un y gellir ei gyflawni ac a fyddai’n dod â gwelliannau arwyddocaol mewn iechyd.'

Cyngor Defnyddwyr Cenedlaethol

'Mae’r Cyngor Defnyddwyr Cenedlaethol yn cefnogi ymgyrch halen yr Asiantaeth yn frwd ac yn croesawu’r pwyslais parhaol yn y trydydd cyfnod ar fenywod sydd ar incwm isel. Roedd ein hymchwil yn dangos er bod manwerthwyr a gwneuthurwyr wedi cymryd camau mawr i leihau lefelau halen mewn rhai cynhyrchion, mae cwsmeriaid ar incwm isel yn parhau i dderbyn bargen wael gyda brandiau rhad yr archfarchnadoedd. Mae ymgyrch yr Asiantaeth yn anfon neges glir i’r holl fanwerthwyr a gwneuthurwyr i leihau cynnwys halen ymhellach mewn bwydydd mae cwsmeriaid yn eu bwyta bob dydd.'

Northern Foods

'Mae Northern Foods wedi bod yn lleihau’r halen yn ei gynhyrchion ers blynyddoedd lawer. Rydyn ni wedi cefnogi ymgyrch halen yr Asiantaeth ers y cychwyn ac rydyn ni’n falch o gadarnhau ein bod wedi cyflawni cynnydd pellach gyda lleihau halen yn ein detholiad o gynhyrchion brand a chynhyrchion label manwerthwr. Mae cynnwys yr halen i’w weld ar bob cynnyrch, i helpu cwsmeriaid i ddewis, a hoffwn ddymuno pob llwyddiant i’r ymgyrch wrth ledaenu’r neges o 6g y dydd.'

Y Pwyllgor Cynghori Gwyddonol ar Faetheg (SACN)

'Mae SACN yn llwyr gefnogi cyfnod nesaf ymgyrch halen yr Asiantaeth. Yn ei adroddiad ar Halen ac Iechyd (2003), bu SACN yn ystyried amrywiaeth eang o dystiolaeth o wahanol fathau o astudiaethau gan ddod i’r casgliad bod bwyta llawer o halen yn cynyddu’r perygl o bwysedd gwaed uchel, sy’n cynyddu’r perygl o farw’n gynamserol o glefyd cardiofasgwlaidd. Felly pe bai pobl yn lleihau’r halen y maen nhw’n ei fwyta i 6g y dydd yna byddai’n fuddiol iawn i’w hiechyd, ond gall bwyta dim ond ychydig yn llai o halen helpu i leihau baich pwysedd gwaed uchel ar y boblogaeth.'

Sodexho

'Fel arlwywr, swyddogaeth Sodexho yw helpu pobl i fwyta’n iachach. Mae Sodexho’n parhau i gefnogi ymgyrch lleihau halen yr Asiantaeth ac yn ymrwymedig i gydweithio â chwsmeriaid ac adrannau perthnasol y Llywodraeth i hyrwyddo deiet cytbwys ac i helpu i fynd i’r afael â phroblemau fel gordewdra, clefyd cardiofasgwlaidd a diabetes.'

Y Gymdeithas Strôc

'Pwysedd gwaed uchel yw’r prif ffactor risg ar gyfer strôc a gallai dros 40% o’r 150,000 o strociau yn y DU bob blwyddyn gael eu hatal drwy reoli pwysedd gwaed. Halen yw un o’r prif elfennau sy’n cyfrannu at bwysedd gwaed uchel. Mae deall a lleihau faint o halen rydyn ni’n ei fwyta yn un ffordd hawdd o reoli ein risg o gael strôc.'

SUSTAIN
Jeanette Longfield

'Ychydig iawn o bobl sy’n sylweddoli bod 75% o’r halen rydyn ni’n ei fwyta eisoes mewn bwydydd bob dydd. Dyna pam fod ymgyrch yr Asiantaeth i annog siopwyr i ddarllen labeli mor bwysig. Nid yn unig gallai prynu’r dewis isaf mewn halen wneud eich deiet yn fwy iach, ond mae hefyd yn rhoi neges hollbwysig i wneuthurwyr bwyd i roi llai o halen yn eu cynhyrchion.'

Tesco

'Rydyn ni’n falch o gefnogi cyfnod nesaf ymgyrch lleihau halen yr Asiantaeth. Mae ein cwsmeriaid yn dod yn fwy ymwybodol o’r cysylltiad rhwng bwyta halen ac iechyd. Oherwydd hyn rydyn ni wedi helpu’n cwsmeriaid i fwyta 50 miliwn llwy de yn llai o halen drwy ail-fformiwleiddio’n cynhyrchion. Mae neges halen yr Asiantaeth yn parhau i fod yn berthnasol iawn a byddwn yn helpu i’w lledaenu i’n cwsmeriaid drwy labelu’n glir, rhoi gwybodaeth yn ein siopau ac ar ein gwefan.'

Unilever

'Mae angen i’r diwydiant bwyd, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, llywodraethau a chwsmeriaid weithredu i leihau faint o halen mae pobl yn ei fwyta yn effeithiol. Mae Unilever yn mynd ati i chwilio am ffyrdd o leihau, lle bo’n bosibl, cynnwys yr halen yn ei gynhyrchion ac eto bodloni disgwyliadau cwsmeriaid o ran blas. Yn y DU, mae Unilever wedi lleihau lefelau halen ym mhob cynnyrch cawl a saws 30% ar gyfartaledd, wedi lleihau lefelau halen mewn Pot Noodle 28% ar gyfartaledd, wedi lansio'r cynnyrch llwyddiannus, Flora heb halen, ac wedi lleihau halen 16% ym mhob cynnyrch selsig Peperami.'

Waitrose
Steven Esom, Rheolwr Gyfarwyddwr

'Rydyn ni wedi ymrwymo i leihau’r halen mae ein cwsmeriaid yn ei fwyta ac mae disgwyl i ni gyrraedd mwyafrif o dargedau halen 2010 yr Asiantaeth erbyn diwedd y flwyddyn. Rydym yn arbennig o ddiolchgar i’n cyflenwyr sydd wedi cydweithio â ni dros y pedair blynedd diwethaf a rhannu’n hymrwymiad i gefnogi ymgyrch yr Asiantaeth ar y mater pwysig hwn i iechyd y cyhoedd.

Ategwyd hyn drwy roi labeli goleuadau traffig ar flaen pecynnau cynhyrchion Waitrose a awgrymwyd gan yr Asiantaeth fel ei bod yn hawdd i gwsmeriaid weld y cynnwys halen.'

Which?
Sue Davies, Prif Ymgynghorydd Polisi

'Mae Which? gant y cant o blaid cyfnod diweddaraf ymgyrch ymwybyddiaeth halen yr Asiantaeth. Mae yna fanteision iechyd amlwg i fwyta llai o halen, ond eto mae ein hymchwil wedi dangos lefelau halen rhyfeddol o uchel mewn bwydydd – yn cynnwys bwyd ar gyfer plant. Mae’n hanfodol fod y diwydiant bwyd yn parhau i leihau lefelau halen mewn bwydydd lle mae hynny’n bosibl a bod yr holl fanwerthwyr a gwneuthurwyr yn ymrwymo i ddefnyddio cynllun labeli goleuadau traffig yr Asiantaeth fel bod cwsmeriaid yn gallu gweld faint o halen y maen nhw’n ei gael.'