Llai o halen – y manteision
Mae’r rhan fwyaf o bobl yn y DU yn bwyta gormod o halen. Mae hyn yn golygu y byddai’r rhan fwyaf o bobl yn elwa o fwyta llai o halen.
- Mae bwyta llai o halen yn lleihau pwysedd gwaed, hyd yn oed os nad yw dy bwysedd gwaed yn uchel yn y lle cyntaf.
- Pan mae dy bwysedd gwaed yn lleihau, mae’r perygl i ti ddatblygu clefyd y galon neu strôc yn lleihau hefyd, waeth beth yw dy oedran.
- Os oes gennyt bwysedd gwaed uchel, gall bwyta llai o halen leihau dy bwysedd gwaed o fewn wythnosau.
- Mae’n bosibl y byddi di’n dechrau sylwi ar fwy o flasau yn dy fwyd, wrth i dy flasbwyntiau addasu i lai o halen.
Mae Deall labeli bwyd yn rhoi cyngor ar sut i ddewis bwydydd sy’n is mewn halen.
Mae mwy am effeithiau bwyta gormod o halen yn Halen a’th iechyd.