Babanod a phlant

Dylai babanod a phlant o dan 11 oed fwyta llai o halen nag oedolion, gan eu bod yn llai.
Faint o halen ddylai babanod ei fwyta?
Ychydig iawn o halen sydd ei angen ar fabanod - llai nag 1g y dydd tan eu bod yn flwydd oed. Ni all eu harennau ymdopi â llawer o halen.
Bydd babanod sy’n bwydo ar y fron yn derbyn y cyfanswm cywir o halen drwy laeth y fron. Mae fformwla fabanod yn cynnwys tua’r un faint.
Cofia beidio ychwanegu halen at fwyd rwyt ti’n ei wneud i dy fabi neu’n ei roi iddo/iddi. Paid rhoi bwydydd nad ydynt ar gyfer babanod yn benodol, fel grawnfwydydd brecwast a sawsiau pasta, oherwydd gallan nhw gynnwys llawer o halen.
Faint o halen ddylai plant ei fwyta?
Mae uchafswm yr halen y dylai plant ei fwyta bob dydd yn dibynnu ar eu hoed:
- 1 i 3 oed - 2g o halen y dydd (0.8g o sodiwm)
- 4 i 6 oed - 3g o halen y dydd (1.2g o sodiwm)
- 7 i 10 oed - 5g o halen y dydd (2g o sodiwm)
- 11 a throsodd - 6g o halen y dydd (2.5g o sodiwm)
Dyma’r lefelau uchaf sy’n cael eu hargymell ar gyfer plant. Mae’n well iddyn nhw gael llai.
Wrth brynu bwyd, hyd yn oed pan fydd y bwyd wedi’i dargedu’n benodol at blant, cofia ddarllen y label er mwyn iti ddewis bwydydd â llai o halen.
Cofia nad oes angen ychwanegu halen at fwyd dy blant.
Os yw plant yn cael gormod o halen, gall effeithio ar eu hiechyd yn y dyfodol. Gall hefyd roi blas iddyn nhw am fwydydd hallt, sy’n golygu eu bod yn fwy tebygol o barhau i fwyta gormod o halen wrth fynd yn hŷn.
Mae Deall labeli bwyd yn rhoi mwy o wybodaeth am sut i weld faint o halen sydd mewn bwyd.