Holi Sam

Sam Montel yw’n harbenigwr maeth ar-lein ac mae’n faethegwr iechyd y cyhoedd cofrestredig. Isod gellir darllen ei hatebion i gwestiynau pobl am halen. Os na fedri di ganfod dy gwestiwn halen yma, e-bostia Sam ar info@salt.gov.uk

Rwy’n sylwi bod rhai poteli o ddŵr mwynol naturiol yn cynnwys sodiwm. A ddylwn i eu hyfed?
Mae’n wir fod rhai mathau o ddŵr mwynol yn cynnwys sodiwm. Mae faint o sodiwm sydd ynddyn nhw yn amrywio’n fawr o un math i’r llall oherwydd eu bod yn cynnwys cymysgedd gwahanol o fwynau yn dibynnu ar ffynhonnell y dŵr. Does yna ddim rheolau ar faint o sodiwm gall dŵr mwynol ei gynnwys.

Mae dŵr ffynnon a mathau eraill o ddŵr potel, er enghraifft ‘dŵr bwrdd’, yn wahanol i ddŵr mwynol oherwydd mae yna gyfyngiadau ar faint o sodiwm y gallant ei gynnwys. Yn y bôn, mae’n rhaid iddynt gyrraedd yr un safonau â dŵr tap, gydag uchafswm o 200mg o sodiwm ym mhob litr. Mae’r mathau hyn o ddŵr fel arfer yn isel mewn sodiwm.

Felly, does dim angen i ti osgoi yfed dŵr mwynol, dŵr ffynnon na mathau eraill o ddŵr potel, ond os wyt ti’n yfed llawer bob dydd yna mae’n syniad da i gymharu labeli a dewis yr un sydd â’r lleiaf o sodiwm ym mhob litr.

Yn ôl i’r brig

A ddylwn i ddefnyddio cynhyrchion is mewn sodiwm yn lle halen?
Mae cynhyrchion is mewn sodiwm yn cynnwys llai o sodiwm na halen cyffredin ac yn blasu’n debyg. Ond maen nhw’n dal i gynnwys sodiwm, ac felly fe fyddi di’n parhau i ychwanegu sodiwm at dy fwyd os wyt ti’n defnyddio’r cynhyrchion hyn. (Sodiwm yw’r rhan o halen sy’n gallu arwain at bwysedd gwaed uchel os wyt ti’n bwyta gormod ohono). Nid yw’r cynhyrchion hyn yn addas i rai pobl, felly rhaid i ti ddarllen y label.

Hefyd, oherwydd bod y cynhyrchion hyn yn blasu’n hallt, nid ydyn nhw’n dy helpu i ddod i arfer â blasau llai hallt. Y ffordd orau yw lleihau’n raddol faint o halen yr wyt ti’n ei ychwanegu wrth goginio neu fwyta, nes yn y pen draw prin y byddi di’n ei ddefnyddio - os o gwbl. Cyn hir bydd dy flasbwyntiau wedi arfer gyda llai o halen ac mae’n bosibl y byddi di’n gwerthfawrogi blasau eraill fwy.

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar dudalen Deall labeli bwyd.

Yn ôl i’r brig

A yw bwydydd mwg yn uchel mewn halen?
Yn gyffredinol mae bwydydd mwg yn uchel mewn halen oherwydd eu bod yn ychwanegu halen i gadw’r bwyd. Yn ystod y broses, mae bwydydd yn cael eu paratoi ac yna’n cael eu halltu gyda halen neu heli (halen mewn dŵr). Yna, maent yn cael eu gosod mewn popty ac yn cael eu sychu mewn mwg, mwg pren fel arfer, am hyd at ddau ddiwrnod.

Gall bwyd mwg gynnwys hyd at 50 gwaith yn fwy o halen na’r un bwyd sydd heb fod drwy’r broses. Er enghraifft, mae eog ffres yn cynnwys 0.1g o halen ym mhob 100g, ond ar ôl cael ei sychu mewn mwg mae’n codi i 4.7g o halen ym mhob 100g. Mae mecryll ffres yn cynnwys 0.15g o halen ym mhob 100g, sy’n codi i 1.9g o halen ym mhob 100g ar ôl cael eu sychu mewn mwg.

Nid yw hyn yn golygu bod rhaid i ti osgoi bwydydd mwg yn gyfan gwbl, ond ceisia osgoi bwyta llawer o fwydydd fel hyn sy’n uchel mewn halen (mwy na 1.5g o halen ym mhob 100g).

Cofia fod rhai bwydydd sy’n aml yn cael eu sychu mewn mwg yn gallu bod yn uchel mewn halen beth bynnag, fel cig moch.

Yn ôl i’r brig

Dwi wedi clywed bod prydau parod yn uchel mewn halen. A ddylwn i roi’r gorau i’w bwyta?
Mae yna amrywiaeth eang o wahanol fathau o brydau parod. Mae’n wir fod rhai prydau parod yn uchel mewn halen, ond nid pob un. Y peth pwysig i gofio yw darllen y label.

Felly does dim angen i ti osgoi prydau parod, ond wrth i ti ddewis bwyd yn y siop, cymhara wahanol brydau parod i weld faint o halen sydd ynddynt a cheisia ddewis yr un sydd â’r lleiaf o halen. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar dudalen Deall labeli bwyd.

Cofia y dylai plant o dan 11 oed fwyta llai o halen nag oedolion, felly byddai pryd parod (neu fwyd arall) sy’n uchel mewn halen yn mynd â nhw’n agosach at yr uchafswm o halen y dylent ei fwyta bob dydd. Mae’r dudalen Babanod a phlant yn rhoi gwybodaeth am yr uchafswm dyddiol i wahanol grwpiau oedran.

Cofia bod prydau parod yn gallu bod yn uchel mewn braster a braster dirlawn hefyd. Mae’r wefan Bwyta'n Iach yn rhoi mwy o gyngor ar wneud dewisiadau iachach mewn siopau.

Yn ôl i’r brig

Dwi’n ei chael hi’n anodd cael gafael ar giwbiau stoc is mewn halen. Beth yw’r dewis arall?
Mae yna rai mathau o giwbiau a gronynnau stoc ar gael sy’n cynnwys llai o halen, ond gall y rhain hyd yn oed fod yn eithaf uchel mewn halen. Felly’r peth gorau yw defnyddio llai ohonynt. Ceisia ddefnyddio hanner ciwb stoc yn lle un cyfan neu rho gynnig ar ddefnyddio dŵr, perlysiau ac efallai ychydig o win wrth goginio, yn lle stoc.

Os oes gen ti’r amser, ceisia wneud dy stoc dy hun heb halen. Gelli di wneud llwyth mawr a’i rewi’n ddognau llai fel bod gen ti beth pan fo’i angen.

Er mwyn gwneud stoc llysiau heb halen, torra ychydig o lysiau - er enghraifft 2 foronen fawr, 6 choes o seleri, 2 winwnsyn canolig, 1 banasen fawr - a’u rhoi mewn sosban fawr gydag 1 ddeilen llawryf (bayleaf), 2 lwy de o buprennau duon a 2.5 litr o ddŵr, a berwi’r cyfan yn araf heb ei orchuddio am awr, yna’i hidlo.

Os byddai’n well gen ti wneud stoc cig, hwyrach y gelli brynu esgyrn gan dy gigydd lleol. Neu, os wyt ti wedi coginio cyw iâr cyfan, gelli ddefnyddio’r carcas i wneud stoc. I wneud stoc cig eidion neu gyw iâr, rho 1.5kg o esgyrn cig eidion neu gyw iâr (neu garcas cyw iâr) a 2 winwnsyn wedi’u torri’n fras mewn tun rhostio a’u pobi mewn popty poeth nes bod yr esgyrn wedi brownio (tuag awr). Rho’r esgyrn a’r winwns mewn sosban fawr ac ychwanega 2 goes o seleri wedi’u torri’n fras, 2 foronen wedi’u torri, 1 ddeilen llawryf, 2 lwy de o buprennau duon a 2.5 litr o ddŵr, a berwi’r cyfan yn araf heb ei orchuddio am 3 awr, yna’i hidlo.

Neu i wneud stoc pysgod, rho 0.75kg o esgyrn pysgod, 1 winwnsyn canolig, 2 goes o seleri, 1 ddeilen llawryf a 1 lwy de o buprennau duon mewn sosban fawr, eu gorchuddio gyda 1.5 litr o ddŵr a berwi’r cyfan yn araf am 20 munud, yna’i hidlo.

Wrth wneud stoc ffres, dylet ei oeri’n gyflym bob tro, sgimio’r braster oddi ar yr wyneb a’i roi yn yr oergell neu’r rhewgell cyn gynted â phosibl.

Yn ôl i’r brig

Mae gen i beiriant gwneud bara ac wedi ceisio gwneud bara heb halen, ond ni allaf gael y toes i godi. Alli di awgrymu sut i wneud bara heb halen?
Yn gyffredinol, rwyt ti angen ychydig o halen i wneud bara, boed hynny gyda llaw neu beiriant. Mae halen yn rheoli effaith y burum yn ystod y broses o wneud bara. Mae peiriannau gwneud bara yn rheoleiddio’r amser codi yn llym, felly os nad wyt ti’n ychwanegu halen, mae’r toes yn dueddol o orgodi, gan roi torth wael gyda chrwst wedi cwympo. Mae’n bosibl y byddi di’n gallu rhoi ychydig yn llai o halen mewn rysáit ar gyfer peiriannau gwneud bara, ond ni fyddi di’n gallu ei osgoi’n gyfan gwbl.

Mae Cymdeithas Brydeinig y Galon yn paratoi taflen ffeithiau ar wneud bara isel mewn halen.

Yn ôl i’r brig

A yw rhai grwpiau ethnig yn fwy tebygol o ddatblygu pwysedd gwaed uchel nag eraill?
Ydynt, mae rhai grwpiau ethnig yn fwy tebygol o gael pwysedd gwaed uchel nag eraill. Er enghraifft, mae’r rhan fwyaf o arolygon poblogaeth y DU yn dangos fod gan fwy o bobl Affricanaidd Caribïaidd bwysedd gwaed uchel na’r cyfartaledd cenedlaethol.

Amcangyfrifir fod cymaint â hanner pobl Affricanaidd Caribïaidd dros 40 oed yn dioddef o bwysedd gwaed uchel ac mae strociau hefyd yn fwy cyffredin yn eu mysg.

Mae bwyta llai o halen yn un peth y gall pobl Affricanaidd Caribïaidd ei wneud i leihau’r perygl o ddioddef pwysedd gwaed uchel neu strôc, yn enwedig gan fod llawer o fwydydd Affricanaidd Caribïaidd traddodiadol yn uchel iawn mewn halen. Mae’r dudalen Pwysedd gwaed yn rhoi gwybodaeth am ffactorau eraill sy’n gallu cynyddu’r perygl o bwysedd gwaed uchel.

Mae pwysedd gwaed uchel yn tueddu i fod yn llai cyffredin ymysg rhai grwpiau ethnig sy’n byw yn y DU, er enghraifft pobl sy’n tarddu o Bakistan, Bangladesh a Tsieina. Fodd bynnag, nid yw hyn yn golygu nad yw’r grwpiau hyn yn gallu datblygu pwysedd gwaed uchel, felly mae’n rhaid iddynt sicrhau nad ydynt yn bwyta gormod o halen serch hynny.

Mae pobl sy’n tarddu o Dde Asia (yn cynnwys Pakistan a Bangladesh) sy’n byw yn y DU yn fwy tebygol o gael clefyd y galon na gweddill y boblogaeth. Felly gallai newid eu deiet a’u ffordd o fyw er mwyn lleihau eu risg o gael clefyd y galon fod o fantais fawr iddynt. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar dudalen Clefyd y galon.

Yn ôl i’r brig

Mae’r wefan Bwyta'n Iach yn rhoi rhagor o wybodaeth am bynciau eraill ynghylch Bwyta'n Iach.